BBC Cymru Wales - Sgwâr Canolog, Caerdydd
Camwch i ddyfodol darlledu yn stiwdios diweddaraf a mwyaf blaenllaw’r BBC, sydd wedi ennill gwobr aur Croeso Cymru am ansawdd y teithiau y tu ôl i’r llen.
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae effeithiau sain yn cael eu hychwanegu at eich hoff bodlediadau? Neu sut deimlad yw darllen y newyddion? Ymunwch â’n tywyswyr cyfeillgar ar daith y tu ôl i’r llenni yn BBC Cymru Wales. Cewch ymweld â’n stiwdios newyddion, chwaraeon a radio newydd sbon, cael gwybod y cyfrinachau y tu ôl i greu rhaglenni'r BBC, a dilyn ôl troed rhai o wynebau adnabyddus Cymru.
Ar eich taith, byddwch yn:
- ymweld ag un o’r ystafelloedd newyddion mwyaf yn y DU, sy’n llawn technoleg flaengar, gan gynnwys realiti estynedig, rhith-realiti a chamerâu robotig
- cael cyfle i fynd y tu ôl i’r llen i weld orielau teledu, cypyrddau dillad ac ystafelloedd gwyrdd
- cerdded ymysg timau a chriw diwydiant y BBC
Mae hon yn ganolfan ddarlledu fyw, sy’n golygu nad oes yr un daith yr un fath ag un arall ac y bydd pob ymweliad yn unigryw.
Archebwch Nawr
Tour dates and times
Dyddiadau ac amseroedd y teithiau
Prisiau tocynnau
Oedolyn
£15.00
Tocyn grŵp - Oedolion (10 neu fwy)
£14.00
Myfyriwr | Person dan 26 oed | Person di-waith cofrestredig
£12.00
Tocyn grŵp - Myfyrwyr | Pobl dan 26 oed | Pobl ddi-waith gofrestredig (10 neu fwy)
£9.00
Person anabl | Person dros 65 oed
£13.00
Tocyn grŵp - Pobl anabl | Pobl dros 65 oed (10 neu fwy)
£12.00
Teulu (1 oedolyn a hyd at 3 plentyn neu 2 oedolyn a 2 blentyn)
£42.00
Credydau Time
2 gredyd
